
Y CABAN COED yw safle Croeso a Gwybodaeth Cytgord y Merched. Rydyn ni'n cwrdd a chroesawu, yn cynnig mapiau a rhaglenni ac yn eich cyfeirio at bob cyfeiriad iawn, rhwng 10yb a 10yh pob dydd. Mae'r hysbysfwrdd yn dangos digwyddiadau'r dydd, a dyma'r lle i chi osod hysbysebion am rannu ceir neu sgiliau.
Y Caban Coed hefyd yw man cyswllt cyntaf merched anabl, - byddwn yn eich cysylltu â'r Tîm Mynediad. Dyma'r swyddfa Eiddo Coll hefyd.
Oriau Agor:
Dydd Iau: 10yb-4yh; 6-9yh (Ar gau 4-6yh)
Dydd Gwener/Dydd Sadwrn/Dydd Sul:
10yb-12 (canol dydd); 2-4yh; 6-9yh
Dydd Llun:
ar agor o 10yb
ARGYFYNGAU
Mae Pecynnau Cymorth Cyntaf ar gael o'r Caban Coed ac ym Mhabell y Criw, ac yn y Caffi. Os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, gofynnwch dîm y Caban Coed. Os ydych chi hefyd wedi cael eich hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac os ydych chi'n fodlon fod ar gael mewn argyfwng, mae croeso mawr i chi ymuno â Thîm y Caban Coed a rhoi gwybod iddynt lle rydych chi'n gwersylla.
Mae chwiban argyfyngau ar gael wrth y Caban Coed. Mewn argyfwng defnyddiwch yr arwydd cyfyngder rhyngwladol: 6 chwibaniad byr ac wedyn munud o ddaliant cyn 6 chwibaniad byr eto. Os clywech chi'r arwydd hwn ac rydych chi wedi derbyn hyfforddiant meddygol, ewch os gwelwch yn dda yn syth i ble bynnag y mae'r chwiban yn cael ei chwythu.
Os yw'r argyfwng yn cynnwys galw ambiwlans, rhowch wybod i Dîm y Caban Coed neu Griw'r Safle bod ambiwlans yn dod cyn gynted ag sy'r bosibl os gwelwch yn dda, fel eu bod nhw'n gallu arwain yr ambiwlans i mewn. Bydd angen i chi ddweud wrth y teleffonydd 999 bod Gŵyl Cytgord y Merched yn cael ei chynnal ar Fferm Clwt-y-Patrwm, rhwng Llangybi a Llanfair Clydogau. Y côd post yw SA48 8ND a'r Cyfeiriad Ordnans yw SN 62 52.
Rhifau ffôn meddygol:
- Meddygfa Llambed ~ 01570 422665
- Ysbyty Bronglais Aberystwyth (26 milltir) ~ 01970 623131
- Ysbyty Cyffredinol Gorllewin, Caerfyrddin (25 milltir) ~ 01267 235151
Ailgylchu a sbwriel
Bydd Criw'r Safle yn gwaredu ar holl wastraff ailgylchu ar y safle wedi'r Ŵyl (dim ond gwydr, papur, cardfwrdd, poteli plastig a chaniau diod / bwyd sydd yn cael eu hailgylchu yn yr ardal hon.) Ceisiwch wahanu'r deunydd hyn os gwelwch yn dda fel bod MODD eu hail gylchu. Byddwn ni'n ddiolchgar pe basech chi'n cymryd cyfrifoldeb dros eich gwastraff 'brwnt' (ysbwriel a chompost) a mynd ag af gyda chi wrth adael. Mae bagiau sbwriel du ar gael wrth y Caban Coed. (Gall gwaredu ar ysbwriel i gladdfa ysbwriel ar gyfer mynychwragedd yr Ŵyl costio Gŵyl Cytgord Merched bron £600, ydyn ni'n teimlo y gall cael eu gwario ar bethau llawer mwy cyffrous.) Diolch!
Tanau: Bydd cylchoedd tân yn cael eu paratoi gan Griw'r Safle, felly nid oes angen i chi gladdu tyllau tân neu i gynnau tân unrhyw le arall. Peidiwch â defnyddio'r mannau tân ar gyfer coginio cig neu bysgod os gwelwch yn dda. Mae diffoddwyr tân ar gael yn y Babell Fawr ac yn y Caffi, ac fe fydd casgenni dŵr ymyl pob tân gwersyll.
Ysmygu: Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw un o'r pebyll cyhoeddus. Gofynnwn i chi beidio â sefyll yn agos i fynedfeydd y pebyll, yn enwedig i'r Babell Fawr, a gadael i fwg araf-lithro i mewn - mae'n berygl iechyd i rai merched/menywod ac fe fyddech yn cael eich gofyn i symud. Os ydych chi'n ysmygu ym mannau eraill, gwaredwch ar eich bonion gyda chyfrifoldeb os gwelwch yn dda.
Seddau yn y Babell Fawr: Ar gyfer digwyddiadau yn y Babell Fawr, cedwir hanner ardal y gynulleidfa yn seddau trwy'r noswaith (yr ardal "eistedd mwy diogel"). Bydd y cadeiriau yn cael eu symud o'r hanner arall nes ymlaen, i ganiatáu dawnsio. Canfyddwch pa ochr yw p'un wrth gyrraedd, ac, os yw'n brysur, rhowch flaenoriaeth i ferched gydag anableddau yn yr ardal eistedd fwy diogel. Gofynnir i chi beidio â dawnsio o flaen yr ardal eistedd fwy diogel a rhwystro golwg y merched sy'n eistedd os gwelwch yn dda.
Gwirfoddoli: Hoffwn ofyn i holl gyfranogwragedd yr Ŵyl i helpu gyda rhedeg yr Ŵyl trwy roi ychydig o'ch amser. Efallai gallwch helpu yn y gegin am ychydig oriau, symud cadeiriau, coladu taflenni caneuon - mae digon i'w wneud! Siaradwch â thîm y Caban Coed i ymuno â chriw gwirfoddol - a pheidiwch â chofio troi lan ar gyfer y gwaith.
Adnoddau ar y Safle
Hammam a Glanweithdra: Bydd yr ardal Hammam yn cynnig adnoddau golchi dŵr poeth sylfaenol ar gyfer golchi yn yr awyr agored (dŵr yn cael ei gyfer gynhesu mewn pot mawr).
Gall heintiau annymunol lluosogi'n hawdd ar safleoedd gwersylla. Byddwch yn llawer mwy gofalus nag arfer am olchi dwylo ar ôl mynd i'r t bach, a chyn tri bwyd. Mae yna fasn golchi dwylo gyda sebon gwrth bacteriol wrth ymyl y caffi. Mae basnau golchi ac ardaloedd golchi llestri (dŵr oer) ar gael ym mannau eraill ar y safle.
Rydyn ni'n argymell eich bod yn ystyried yn ofalus cyn rhannu offerynnau, yn enwedig offerynnau chwyth. Os ydych yn rhoi neu yn derbyn Cymorth Cyntaf mewn unrhyw achos sydd yn cynnwys gwaed neu hylifau corfforol, defnyddiwch y menig latecs a ddarparir.
Cymorth i Ferched Anabl: Mae gennym ni Tîm Mynediad bach o wirfoddolwragedd.
Gallwn gadw cadair ichi yn y Babell Fawr, neu fynd â'ch cadair chi yno mewn amser i'r digwyddiad yr hoffech ei fynychu. Gofynnwch i'r Tîm Mynediad o flaen llaw os gwelwch yn dda, cyn i'r digwyddiad cychwyn. Nodwch, ar gyfer digwyddiadau gyda'r hwyr yn y Babell Fawr, bydd hanner ardal y gynulleidfa yn ardal edau trwy'r nos (ardal eistedd fwy diogel). Bydd y seddau yn cael eu symud o'r hanner arall nes ymlaen i gynnig lle i ddawnsio. Gofynnwch i'r Tîm Mynediad i wneud yn siŵr eich bod chi'n eistedd rhywle sydd yn cwrdd â'ch anghenion yn orau trwy'r noswaith. Rydyn ni'n disgwyl bydd y cyfieithydd iaith arwyddion ar y llwyfan o flaen yr ardal eistedd fwy diogel.
Hefyd, mae yna sgwter symudedd trydan ar gael.
Cyfieithwragedd Iaith Arwyddion: Bydd Cyfieithwragedd Iaith Arwyddion yn cyfieithu ar gyfer perfformiadau gyda'r hwyr. Tynnu Lluniau: Mae trefnwragedd Cytgord y Merched yn tynnu lluniau (o weithdai er enghraifft) ar gyfer ein gwefan ac archif. Os nad ydych chi am fod mewn llun, rhowch wybod i'r ffotograffydd cyn iddi dynnu'r llun, neu gofynnwch iddi hi i'w ddileu. Os ydych chi'n tynnu lluniau eich hun, byddwch yn deimladwy i hyn os gwelwch yn dda.
Cylch Gen'od: (Oriau agor 10.45yb – 1yh a 2.15yh - 4.30yh)
Mae'r Cylch Gen'od yn cynnig lle hwylus a chyfeillgar ar gyfer gen'od ifanc i gyd rhwng pedair oed ac un ar bymtheg (16), gyda rhaglen amrywiol o weithdai celf a chrefft. Rydyn ni'n cynnig cyfle i ferched dysgu sgiliau newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl. Croeso i fenywod hefyd.
Lles yr Ŵyl
Mae Cytgord y Merched am greu lle diogel a chefnogol i bawb ei fwynhau. Gobeithiwn i bawb fod yn ymwybodol, a chymryd rhan mewn rhannu cyfrifoldeb am les pawb arall, yn arbennig plant, menywod ifainc a menywod anabl ac mewn oed.
Fodd bynnag, yn achos plant, eu mamau neu warcheidwaid yw'r sawl sydd â chyfrifoldeb terfynol ar bob adeg. Nid yw awyrgylch diogel yr Ŵyl yn golygu o'i hanfod nad os angen eu goruchwylio o gwbl.
Gall perfformiadau wedi'r 'wahanfa' 10yh cynnwys deunydd 'oedolion'. Bydd angen i famau neu warcheidwaid penderfynu gyda'r marched hyn ar feth sydd yn briodol iddyn nhw eu mynychu. Dyma'r sefyllfa hefyd gyda gweithdai, lle y gallwch ofyn i arweinwragedd, y gweithdai am gymorth gyda'ch penderfyniadau.
Gofynnwn hefyd i bawb i fod yn ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng lleoedd cyhoeddus a phreifat. Yn awyrgylch hamddenol Cytgord y Merched, byddwch yn ymwybodol y gall eich ymddygiad affeithio a'r eraill, a byddwch yn barchus.
Ymunwch mwy!
Uno'r pethau gorau am fod yn rhan o Gytgord y Merched yw'r cyfle i ymuno. Mae Cytgord y Merched yn talu ffordd ei hunan ac mae ond yn digwydd oherwydd teyrngarwch a mawrfrydigrwydd ffyddlon nifer bach o fenywod gweithgar ymroddedig. Gall "merched o bell" cymryd rhan yn y Cymundod gan fod adnoddau cynhadladda ffôn gennym. A hyd yn oed os nad ydych am gymryd rhan yn uniongyrchol yn nhrefniadau a rhedeg Cytgord y Merched, mae gan bob merch a menyw sy'n dod yma sgiliau a rhinweddau dichonol i'w cynnig.
A hoffwn bigo'ch syniadau a gwybodaeth. Ydych chi'n nabod bandiau gwych; cerddorion y dylwn ni gwybod amdanynt ac y hoffech chi eu gweld ar y llwyfan blwyddyn nesaf? Ydych chi'n cuddio golau cannwyll eich hun o dan lestr? A oes gweithdai byddwch yn eu mwynhau, neu y hoffwch hyrwyddo? A allwch helpu ymledu gair am Gytgord y Merched?
Hoffwn ni glywed gan "merched mewn cytgord" ym mhob man. Anfonwch eich syniadau ac awgrymiadau, a chyfraniadau os gallwch chi. Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynwch eich i Dîm y Caban Coed. Wedi'r Ŵyl, cysylltwch â ni ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch 01570 493288.
Dymunwn brofiad Cytgord y Merched 2011 rhagorol i chi!
Aml gân, un gallon.
Cymundod Cytgord y Merched
Diolchiadau a Chydnabyddiaeth:
- Cytgord y Merched yn Nhodmorden (WIT in TOD) am gynnal penwythnos fudd rhagorol
- Magwrfa Goed Shark am goed tân
- Ein holl berfformwragedd ac arweinwragedd gweithdai bendigedig
- Y darparwyr a benthycwyr a gwragedd offer a gwasanaethau hael
- Ein cymundod o drefnwragedd, criw a gwirfoddolwragedd sydd wedi body n gweithio hyd at draed noeth ddydd a nos, wythnos ar ôl wythnos, yn y baw, y glaw, ar ysgolion, mewn cyfarfodydd pum awr, wrth beiriannau gwnïo a sgriniau cyfeiriaduron yn y llyfrgell gyhoeddus, ac yn dal i fynd dim ond oherwydd ymroddiad, brwdfrydedd a hufen iâ faganaidd (mae croeso i chi ddod â rhagor iddyn nhw o siop y pentref)
...ac yn olaf ond heb fod yn lleiaf, ein diolch i bawb a brynodd docyn - heboch chi ni fyddai Cytgord y Merched yn digwydd eleni!

Login
close 

